Y Cledrau - Os Oes Cymaint o Drwbwl…

Rhyddheir ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl…’ gan Y Cledrau ddydd Gwener 13eg o Fai, 2022 ar label recordiau I KA CHING. Does dim osgoi Y Cledrau yn ddiweddar, wrth iddyn nhw berfformio ym mhob gig sy’n mynd, a hynny ar ôl rhyddhau’r albwm ‘Cashews Blasus’ yn ystod haf anodd 2021. Mae traciau fel ‘Hei Be Sy’ a ‘Cerdda Fi i’r Traeth’ yn barod wedi ennill eu plwy, ac mae’n gyffrous eu gweld yn rhyddhau trac newydd sbon arall ar gyfer y casgliad. “Roedd sgerbwd a geiriau ‘Os Oes Cymaint o Drwbwl...’ wedi ei ffurfio cyn ein halbwm cyntaf Peiriant Ateb yn 2017, ond fe gafodd hi ei chadw yng nghefn y drôr (yn drosiadol ac yn llythrennol), tan rŵan”, eglura Joseff Owen, prif leisydd a gitarydd Y Cledrau. “Hon oedd un o’r traciau cyntaf i ni recordio wrth weithio ar ein hail albwm Cashews Blasus yn stiwdio Sain, ond erbyn i ni orffen yr albwm, roedden ni’n teimlo nad oedd hi’n cyd-fynd gyda naws gweddill yr albwm. Efallai bod ei chynnwys ar gasgliad fel hyn yn cyd-fynd gyda thema’r geiriau; myfyrdod ar fod ar wahân mewn un ffordd neu’r llall.” “Ymgais sydd yma i greu darlun o’r ofn a’r dryswch sy’n gallu cydio’n llawer rhy hawdd ar adegau, wrth i bopeth ymddangos fel petai nhw’n gwibio heibio, cyn i chi gael cyfle i wisgo’ch ‘sgidiau. Fe ddatblygodd hi’n drac trymach o ran sain na’r disgwyl wrth recordio; Arcade Clash oedd y ‘working title’, a gellir cyfeirio ati fel brechdan indi-roc y 00au ar fara o bync. Os am gadw at yr un trosiad, mae’n siŵr mai ofn dirfodol gorfeddyliwr yn ei arddegau ydi’r menyn, gyda salad o hunaniaeth a hiraeth ar yr ochr. Bwytewch a byddwch lawen!” Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING dipyn o garreg filltir wrth ddathlu deng mlwyddiant o fodolaeth. Dechreuwyd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, nid oedd modd gwireddu pob rhan o’r dathliad, felly mae’n rhaid parhau eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ailgymysgiadau gan artistiaid y label. Rhyddheir cân yr wythnos hyd nes yr 20fed o Fai 2022, ble cyhoeddir yr un gân ar bymtheg ar feinyl ddwbwl sgleiniog. @YCledrau @IKACHINGrecords Lyrics Fydd o byth ‘r un peth yn ôl pawb Neith o ddim lles cysgu ar lawr Rhwng y lludw a’r sachau cysgu Yn chwysu tan berfeddion Fydd o byth ‘r un peth yn ôl hi Neith o ddim lles ei galw yn ‘chi’ Mai’n crychu gwên ‘Ti’n ‘neud fi deimlo mor ofnadwy o hen’ Dwn i ddim be’ di’r neges gudd A gafodd pawb o Gaeredin i Gaerludd Dwi’n teimlo dim ond chwys A chlywed dim ond pawb yn gyrru ar frys At rhywun sy’n aros Ar yr ochr draw efo rhywbeth i ddangos Goleuadau stryd sy’n arwain Y gynulleidfa brwd i olrhain Breuddwydion o rhywbeth na ddaw Dim ond gwên gwefusau main a chodi llaw Dwn i ddim pa gyfrinach fawr a glywodd pawb O’r nefoedd at y llawr Ond os oes cymaint o ddifrod ‘Se well gen i dreulio fy oes ‘fo dihirod Dwn i ddim ‘be di’r neges gudd A gafodd pawb o G’narfon i Gaerdydd Ond os oes cymaint o drwbl Dwi’n dechrau amau os dwi’sho’i glywed o gwbl Fideo Cyfarwyddwr : Nico Dafydd Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth : Rhys Jenkins Gyda : Dyddgu Glyn Cynhyrchu : Ynyr Morgan Ifan & Owain Jones Diolch i Neuadd Ogwen Cerddoriaeth newydd a diwylliant cyfoes Cymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 New Welsh music and contemporary culture 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Gwasga’r botwm ’Subscribe’ TikTok, Instagram, Twitter & Facebook - @Lwps4c
Back to Top